Hanes yr Ysgol / School History

[Map]

(There is no English translation available.)

Y BLYNYDDOEDD CYNNAR
(gan ROLAND JONES, Y PENNAETH CYNTAF)

AMSER MAITH YN WIR

Newidwyd cwrs afon Conwy yn ystod Oes yr Iâ, “ac yn lle ymarllwys i’r môr ym Mae Penrhyn megis cynt, trowyd hi gan iâ Môr Iwerddon i ochr orllewinol y Creuddyn ym Mae Conwy”. Dyma restr o drefi’r Creuddyn - “Gogarth, Yr Wyddfid, Rhiwledin, Penrhyn, Bodafon, Gloddaith, Penlasog, Degannwy, Bodysgallen, Llanwyddan a Trefwarth.” Rhwygwyd cwmwd Creuddyn oddi wrth gantref Rhos oherwydd pwysigrwydd strategol hynafol Degannwy, ac felly daeth trefi Eirias, Penmaen a Llysfaen yn rhan o dir y goron yn sir Gaernarfon.

Hwyrach (medd yr Athro Geraint Gruffudd) mai Robert Gwyn o Benyberth (Llanbedrog) oedd awdur “Y Drych Cristionogol” ac fe argraffwyd y rhan gyntaf ohono mewn ogof yng nghreigiau Rhiwledin (Llandudno), 1586 - 7. Rhoddodd Robert Pugh o’r Penrhyn Creuddyn loches barod i’r offeiriaid cenhadol. Yng nghysgod y tai hyn, a’u tebyg, y nythai’r rhan fwyaf o’r gwrthodwyr Catholig. Gwelir eu henwau yng nghofnodion swyddogol y cyfnod: deuai’r mwyafrif ohonynt naill ai o’r Creuddyn a’r cyffiniau neu o ochr Caernarfon.

Dywedodd Alun Llewelyn-Williams yn ei lyfr “Crwydro Arfon” mai “lle rhyfedd yw’r Creuddyn heddiw”. Ymddangosodd ei gyfrol beth amser cyn sefydlu’r ysgol a chyfeirio y mae at y “cwmwd diarffordd” gwreiddiol sydd wedi “esgor ar un o’r trefi-glan-môr mwyaf poblog a phoblogaidd yng Nghymru”. Mynegodd hefyd mai Seisnigaidd oedd ardal y Creuddyn a bod rhaid “chwilio’n ddyfal am olion ac arwyddion o’r bywyd Cymraeg, ond fe ddeil y bywyd i lifo o dan y wyneb, ac ambell waith gall greu bwrlwm hoyw o hyd”.

Hyderwn fod yr Ysgol wedi gwireddu breuddwydion yr arloeswyr rhagorol - rhieni a chyfeillion niferus- a fu bennaf yn gyfrifol am sicrhau bodolaeth Ysgol y Creuddyn. Diolch o galon iddynt hefyd am eu caredigrwydd i’r ysgol dros y blynyddoedd.

Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

[Athrawon]

AGOR YSGOL Y CREUDDYN

Agorodd Ysgol y Creuddyn ddydd Mercher, Medi 2, 1981, a bu Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy’n gymorth mawr o’r cychwyn cyntaf. Trosglwyddodd pump o athrawon o’r ysgol honno i’r Creuddyn a buont yn gaffaeliad i ni oherwydd eu profiad a’u hadnabyddiaeth o’r disgyblion, gan fod tua’u hanner hwy hefyd o Lan Clwyd. Gyda lleoliad Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn fe lanwyd y bwlch rhwng Ysgol Tryfan ym Mangor ac Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy.

Yr oedd ynddi 218 o ddisgyblion ar y dechrau, cant union ohonynt ym mlwyddyn 7, wedi dod atom o ysgolion cynradd y dalgylch. Roedd y gweddill ym mlynyddoedd 8 a 9, gyda’r rhan fwyaf ohonynt o Ysgol Glan Clwyd. Deuddeg ystafell ddysgu oedd ar gael bryd hynny a bu’n rhaid eu defnyddio fel labordai a gweithdai nes y cwblhawyd yr adeiladau. Un o dasgau cyntaf y Pennaeth Addysg Gorfforol oedd chwilio am ystafelloedd newid i’r plant a gludo darnau mawr o bapur dros y ffenestri plaen! Nid oedd gan yr ysgol gampfa na neuadd yn ystod y tair blynedd gyntaf, ond yr oedd y ffreutur ar gael o’r dechrau.

Dechreuwyd gyda phedwar ar ddeg o athrawon ac er gwaethaf amheuon rhai pobl ynghylch prinder athrawon cymwys i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd pob un ohonynt, yn ogystal â’r staff ategol i gyd, yn rhugl yn y Gymraeg.

YR ATHRAWON YN Y FLWYDDYN GYNTAF

Mr Roland Jones, Prifathro

Mrs Ellen Kent, Deganwy, (Athrawes Bro Ymgynghorol yng nghylch Llandudno), Dirprwy Brifathrawes.

Mr Dafydd Whittall, Llanrhaeadr ger Dinbych, (o Ysgol Glan Clwyd), Ail Ddirprwy, a Phennaeth (tros dro) ar y Gyfadran Iaith.

Mr Dewi Wyn Williams, Llandrillo yn Rhos, (o Ysgol Bryn Elian), Pennaeth y Gyfadran Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Mr Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn, (o Ysgol Aberconwy), Pennaeth y Gyfadran Astudiaethau Creadigol.

Mr John Hughes, Bryn Pydew, Llandudno, (o Ysgol Glan Clwyd), Pennaeth y Gyfadran Dylunio.

Mr Meurig Rees, Henllan, (o Ysgol Glan Clwyd ), Pennaeth y Gyfadran Dyniaethau.

Mr Derec Stockley, Llydaw, (gynt o Bontypridd ac yn athro yn Ysgol Rhydfelen), athro Ffrangeg.

Mr Robert Brynmor Owen, Hen Golwyn, (o Ysgol Botwnnog), Pennaeth Ffiseg ac athro Mathemateg.

Dr Brian Jones, Dwyran, (o Ysgol Tryfan, Bangor), Pennaeth Cemeg, ac yn athro Mathemateg.

Miss Olwen Williams, Yr Wyddgrug, (Ysgol Glan Clwyd), athrawes Saesneg.

Miss Enid Williams, Yr Wyddgrug, (Ysgol Treffynnon), gofalu am Ddawns, Drama ac Ymarfer Corff.

Mr Arwel Hughes Roberts, Glan Conwy, (Ysgol Penmaenrhos, gynt o Ysgol Glan Clwyd), gofalu am Addysg Adferol.

Miss Bethan Vaughan Griffith, Bangor, (o Ysgol Caerleon), athrawes Gwyddor Tŷ.

“Ofnwn ar y dechrau na fyddai digon o athrawon abl a phrofiadol yn ymgeisio am swyddi yn yr ysgol, ond di-sail oedd fy ofnau. Fel Cadeirydd y Llywodraethwyr am wyth mlynedd gallaf dystio fod gweledigaeth a dyfalbarhad yr arloeswyr wedi ei gyfiawnhau”. (O.M. Roberts)

STAFF ATEGOL

Swyddfa Miss Delyth Rees
Adnoddau Mrs. Mary Williams
Gofalwr Mr. William Roberts
Glanhawraig Mrs. Susan Lloyd
Cegin:  
Cogyddes Mrs. Mona Lloyd
Cymhorthydd Cyffredinol: Mrs. Eirlys Jones
  Mrs. Ceinwen Evans
  Mrs. Jane Griffiths
  Mrs. Mari Jones
  Mrs. Valmai Davies
Gweithiwr Til Mrs. Esther Williams

YR AGORIAD SWYDDOGOL, 1984

Agorwyd gan y Cynghorydd O.M.Roberts, yn unol â dymuniad athrawon yr ysgol. Ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf y Corff Llywodraethol, ac un o’r amlycaf o’r ymgyrchwyr a sicrhaodd fodolaeth yr ysgol. Da oedd cael Mr Gwilym Humphreys, Cyfarwyddwr Addysg Gwynedd gyda ni, a hefyd Gyfarwyddwr Clwyd, Mr John Howard Davies. Bu Mr Humphreys yn dda hefyd, dros y blynyddoedd, am ddod, gyda’i wraig, i Ddramau a Sioeu Cerdd yr ysgol. Byddai bob tro’n anfon llythyr i ddiolch a chanmol.

CORNEL Y BEIRDD

[OM]

COFIO AGORIAD YSGOL Y CREUDDYN AR ACHLYSUR DATHLU CHWARTER CANRIF YR YSGOL
gan Llinos Misra
(née Davies), disgybl oedd yn y drydedd flwyddyn ar y pryd

Fe gawsom yr alwad ryw flwyddyn ynghynt
I adael Glan Clwyd a mynd ar ein hynt
Tua’r gorllewin, tua Gwynedd yn wir,
Lle ‘roedd ysgol newydd yn pontio dwy sir!

Ac felly ym Medi wyth deg ac un,
Gyda ffanffer a bwrlwm ac ambell i lun,
Agorwyd y Creuddyn, ysgol newydd – i ni,
Blant Clwyd a phlant Gwynedd – ac O! Dyna sbri!

Athrawon brwdfrydig – a dewr, am wn i! –
Yn dysgu blynyddoedd un, dau a thri.
Dim lle’r adeg hynny i flynyddoedd hŷn
Gan fod adeiladwyr yn dal ar y sîn!

Ac O! Am athrawon amryddawn a theg –
Pob un ohonynt – y pedwar ar ddeg.
Rhai’n dysgu pob math o bynciau’n y dechrau
Yn wahanol, mae’n siwr, i arbenigedd eu graddau!

A ninnau’r disgyblion yn cael digon o hwyl
Ar feysydd chwarae ac ar lwyfannau Gŵyl,
Yn smart o’n co’ yn ein llwyd a gwyrdd
A’r teis bythgofiadwy a’u symbolau fyrdd!

Dyddiau hapus felly, chwarter canrif yn ôl
A braf yn wir yw cael edrych yn ôl
A chofio’r holl gyffro a’r teimlad o berthyn
I le go arbennig – Ysgol Y Creuddyn!

YSGOL Y CREUDDYN
gan Nia Parry (cyn-ddisgybl)

Am saith mlynedd cefais loches dan ei llechi hi,
y gorlan ddiogel a’m gwnaeth i yn fi.

Yno ces i ‘nghusan gynta yng ngwaelod y cae,
a chael fy nal ym Mae Penrhyn a choblyn o ffrae.
Yno mi ddysgais be’ oedd ‘llif fwa fach’,
a phwy oedd Mozart, Handel, Beethoven a Bach.
Atgofion o chwarae hoci a rhedeg traws gwlad,
a dysgu pam mae’r ffarmwr yn hau yr had.
Dysgais am yr Iddew, yr Hindŵ a’i gred,
ac i fesur arwynebedd rhaid lluosi’r hyd efo’r lled.
Llosgais ambell i sgon, teisan spynj a phei,
ac arbrofi efo’r ffordd fwya’ cŵl o wisgo fy nhei.
Mi ges i’r fraint o ddarllen straeon byrion, nofel a cherdd,
a’r trôma o actio mewn drama yn gwisgo ffrog hyll werdd.

Oes, mae gennyf atgofion hapus di-ri,
ond yn fwy na dim dysgodd Creuddyn i mi
sut i garu fy iaith, fy nghenedl a’m gwlad,
a gwir ystyr y geiriau ‘gwladgarwyr tra mad’.

Am chwarter canrif bu hi’n fam i ni oll
yn dangos y ffordd ac yn helpu’r rhai oedd ar goll.
Diolch am gael lloches dan ei llechi hi,
y fynwes gysurus a’m gwnaeth i yn fi.

Y CREUDDYN
gan John Ffrancon Griffith, Abergele (cyn-bennaeth yr adran Gymraeg)

O dro i dro, o swrth lonyddwch mawr
y lli, pan fyddo’r grymoedd yn crynhoi
nes siglo’r cefnfor dwfn hyd eitha’i lawr,
fe gyfyd ynys newydd, gan gyffroi
yn ferw oll y dyfroedd ar bob tu.

A hon a saif yn greadigaeth wiw
yng nglesni’r môr, yr aeres lana’ ‘fu,
yn mynnu hawlio’i lle ymysg ei chriw.

A maes o law fe ddaw rhyw hyfryd ddydd
y cân y gwynt, y gwena brig y don,
y dadorchuddir cyfrinachau cudd
ei chlai; a ninnau’n gweld gogoniant hon,
yn bridd a choed, yn ddôl a nant a llyn,
a hithau’n werddon hardd i’r sawl a’i myn.

YSGOL Y CREUDDYN (2006)
gan John Gruffydd Jones, Abergele (cyn-riant)

Mae mwy i addysg na’r holl wersi maith,
A mwy i fywyd na holl olud byd,
Ac yn y dyddiau gwyrdd ar ddechrau’r daith
Mae angen sylfaen at y ffordd i gyd.
Mae mwy i gân na nodau du a gwyn,
Ac i farddoniaeth fwy na geiriau coeth,
Nid oes mewn rhifau er eu clyfrwch syn
Y wefr o wybod am y cain a’r doeth.
Ond magwyd hyder rhwng dy furiau di,
A chariad at barhad y gwerthoedd gwâr,
A gwybod sydd yn fwy na’n haddysg ni
Yw’r gwybod am berthnasedd milltir sgwâr.
Tydi yw sicrwydd ein bodolaeth ni,
Mae’n ddoe a’n ‘fory rhwng dy ddwylo di.

YSGOL Y CREUDDYN - 25 mlynedd
gan Alwyn Williams, Llansannan (cyn-riant)

Yn ddygn fe rydd ei hegni – ac â’i dysg
Ei dawn a’i daioni
Bob tymor mae’n angori
Ein hiaith a’n diwylliant ni.

Diweddarwyd diwethaf: Dydd Llun, 30 Medi 2013, 12:09 a.m.