Dawn Dysg Daioni

Croeso!


Mae'r wefan hon yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

Nôl ym Medi 1981, agorwyd drysau Ysgol y Creuddyn am y tro cyntaf a hynny wedi ymgyrchu brwd a brwydro angerddol gan bobl y dalgylch am ysgol uwchradd Cymraeg ei chyfrwng yn yr ardal. Dros 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae Ysgol y Creuddyn yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda dros 670 o ddysgwyr yn mynychu (gan gynnwys tua 100 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth) diolch i gefnogaeth barhaus rhieni a chyfeillion cymuned Ysgol y Creuddyn.

Mae ein plant a’n pobl ifanc yn teithio o ddalgylch eang iawn i’n hysgol, sydd wedi ei lleoli yn nhref fechan Bae Penrhyn.

Ceir yma naws deuluol amlwg a chymuned glos gydag ymwelwyr i’r ysgol yn aml iawn yn cael eu taro gan yr ymdeimlad yma o agosatrwydd ac o berthyn. Rydym yn ysgol gynhwysol sydd ag adnabyddiaeth dda o’n dysgwyr ac mae eu dawn, eu dysg a’u daioni yn ganolbwynt i bopeth a wnawn.

Yr Ysgol

- @ysgolycreuddyn


Y Creuddyn


Disgyblion o gwmpas arwydd yr Ysgol

Y Creuddyn

Dawn


Disgyblion yn cyfansoddi cerddoriaeth

Dawn

Dysg


Disgyblion yn adolygu yn ystafell y 6ed ddosbarth

Dysg

Daioni


Disgyblion yn marcio amseroedd mewn ras

Daioni

Sioe Gerdd Matila


poster matilda

Rhagfyr 19 - 21

Neuadd Ysgol y Creuddyn

7.30yh

Archebu Tocynnau

Poster (PDF)